Term sosioieithyddiaeth ydy ieithoedd lleiafrifedig sydd yn cyfeirio at ieithoedd sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn, erledigaeth neu waharddiad yn ystod eu hanesion.[1][2][3]
Mae hi'n gysyniad sydd yn canolbwyntio ar weithred sydd wedi arwain at lai o ddefnydd o iaith. Mae hi'n wahanol i'r term iaith leiafrifol sydd yn cyfeirio at nifer cymharol isel o siaradwyr neu ddefnyddwyr.[2] Nid yw'r ddau derm wastad yn gyfystyr.
Mae'r ieithoedd Ös a Tofa yn enghreifftiau o ieithoedd lleiafrifedig oherwydd mae siaradwyr yr ieithoedd wedi cael eu gwawdio neu eu banio am siarad yr ieithoedd.[4]